Ni chaiff fyth o'i ddefaid rhi,
Fyn'd yn ango',
Ar ei ysgwydd cwyd ef ni,
Er in' grwydro;
Ar làn afon ddwyfol wiw,
Cawn ein gwala,
Porfa fras a dyfroedd byw,
Haleluia.
Bugail yw, a roes ei waed,
Dros ei ddefaid,
Ac fe'n prynodd ni yn rhad,
O'n caethiwed;
Dygodd ni i brofi blas,
Dwyfol fanna,
Bellach canwn am ei ras,
Haleluia.
Nid oes terfyn fyth i'w gael,
Ar ei gariad,
Mae'i drysorau mawrion hael,
Uwch eu dirnad;
Ynddo ei hunan mae yn llwyr,
Oll ddymuna',
Minau ganaf foreu a hwyr,
Haleluia.
William Williams 1717-91
[Mesur: 7474D] gwelir: Ar Galfaria un prydnawn Bugail yw fe roes ei waed Caned nef a daear lawr Dyma'r Aberth mae erioed Mi a gredaf yn fy Nuw Teithio'r wyf fynyddau maith |
Never shall any of the number of his sheep
Be forgotten,
And his shoulder he shall lift us,
Despite our wandering;
On the bank of the worthy, divine river,
We shall be satisfied,
Rich pasture and living waters,
Hallelujah!
A Shepher he is, who gave his blood,
For his sheep,
And he redeemed us freely,
From our captivity;
He led us to experience the taste
Of divine manna,
Henceforth let us sing about his grace,
Hallelujah!
No end is ever to be found
To his love,
His great, generous treasures are
Beyond understanding;
In him himself is completely
All I wish,
I shall sing morning and evening,
Hallelujah!
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|